You don't want to miss this.
[[trackingImage]]

Apr 23

Improving COPD Pathways with the All Wales COPE Template

Join us for a focused session exploring the All Wales COPE COPD Template, a standardised clinical tool supporting consistent, high- quality COPD reviews across primary and community care.


In this webinar, we will explore:


• Why the national template was developed

• How it improves assessments and supports consistent care

• Benefits for clinicians and patients

• Early implementation insights across participating practices


Speakers:

Natalie Janes – Lead Nurse Respiratory Network; Advanced Nurse Practitioner & Non-Medical Prescriber; Head of Education (Clinical & Remote Care), WAST

Professor Keir Lewis – Clinical Respiratory Lead, Hywel Dda UHB. Keir is Clinical Respiratory Lead, Hywel Dda UHB and Professor of Medicine at Swansea University. His clinical and research interests include COPD, smoking cessation and chronic respiratory failure. He has been developing and refining the COPE template since 2020, in partnership with Primary Care, Value-Based Researchers, with innovation funding from Astra Zeneca and the Tritech Institute, Llanelli.


This webinar is ideal for primary care clinicians, respiratory teams, and colleagues supporting COPD pathways.


Join us to learn how this all-Wales approach is helping improve outcomes and streamline care for people living with COPD.


Virtual location

You will receive a confirmation email with a URL.

Apr 23, 2026 12:30pm - Apr 23, 2026 01:30pm

Free

Gwella Llwybrau COPD gyda Thempled ‘COPE’ Cymru Gyfan


Ymunwch â ni am sesiwn clir ei chanolbwynt sy'n archwilio Templed ‘COPE’ (Creu Unwaith, Cyhoeddi ym Mhobman) Cymru Gyfan ar gyfer COPD (Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint). Offeryn clinigol safonol yw hwn sy'n cefnogi adolygiadau COPD cyson o ansawdd uchel a hynny ar draws gofal sylfaenol a chymunedol.

Yn y weminar hon, byddwn yn archwilio’r canlynol:

• Pam y cafodd y templed cenedlaethol ei ddatblygu

• Sut mae'n gwella asesiadau ac yn cefnogi gofal cyson

• Y manteision i glinigwyr a chleifion

• Mewnwelediadau i weithredu cynnar ar draws practisiau sy'n cymryd rhan


Y Siaradwyr:

Natalie Janes – Nyrs Arweiniol, y Rhwydwaith Anadlol; Uwch-ymarferydd Nyrsio a Phresgripsiynydd Anfeddygol; Pennaeth Addysg (Gofal Clinigol a Gofal o Bell), Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST)

Yr Athro Keir Lewis – Arweinydd Anadlol Clinigol, BIP Hywel Dda. Keir yw’r Arweinydd Anadlol Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac mae hefyd yn Athro Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau clinigol ac ymchwil yn cynnwys COPD, rhoi'r gorau i ysmygu a methiant anadlol cronig. Mae wedi bod wrthi’n datblygu a mireinio'r templed ‘COPE’ ers 2020, mewn partneriaeth ag Ymchwilwyr ym maes Gofal Sylfaenol sy’n cynnal Ymchwil a gaiff ei llywio gan Werthoedd, a hynny gyda chyllid arloesi gan Astra Zeneca a Sefydliad Tritech, Llanelli.


Mae'r weminar hon yn ddelfrydol ar gyfer clinigwyr gofal sylfaenol, timau anadlol, a chydweithwyr sy'n cefnogi llwybrau COPD.


Ymunwch â ni i ddysgu sut mae'r dull Cymru gyfan hwn yn helpu i wella canlyniadau a symleiddio gofal i bobl sy'n byw gyda COPD.